Nem vált be? Semmi gond! Nálunk 30 napon belül visszaküldheti
Ajándékutalvánnyal nem nyúlhat mellé. A megajándékozott az ajándékutalványért bármit választhat kínálatunkból.
30 nap a termék visszaküldésére
Thema'r llyfr hwn yw sut mae nofelwyr benywaidd Cymraeg wedi son am rai o'u profiadau corfforol mwyaf personol a dwys (yn bennaf beichiogrwydd a'r mislif) a sut mae'r drafodaeth honno wedi newid dros amser. Mae'r llyfr hefyd yn ymchwilio'r berthynas rhwng y corff benywaidd a Chymru / y Gymraeg. Ydy'r ffaith ein bod yn cyfeirio at 'famiaith', a ffenomena fel cerdd adnabyddus T. H Parry Williams 'Hon' sy'n personoli'r wlad fel menyw, wedi cyfoethogi ein diwylliant neu'i rwystro? Ydy achos yr iaith ac achos gwleidyddiaeth rywedd yn datblygu llaw yn llaw yng Nghymru, neu fel arall, a oes un ohonynt yn ffynnu ar draul y llall? Mae'r llyfr yn defnyddio dros 150 o nofelau ac ystod eang o ffynonellau cyfoes eraill gan gynnwys hysbysebion, delweddaeth, chwedloniaeth a ffynonellau electronig i lywio dadl ffres, fywiog a heriol.